BBC Radio Cymru

BBC Radio Cymru Radio i siaradwyr Cymraeg - yn amlygu materion, digwyddiadau, diwylliant a diddordebau pobl Cymru. Dyma gartref swyddogol BBC Radio Cymru ar Facebook.

Cysylltwch gyda ni yma! Rydyn ni eisiau clywed eich straeon, hysbysiadau, sylwadau a cheisiadu. Mae Radio Cymru'n cael ei ddarlledu ar donfeddi o 92 i 105 FM ar draws Cymru, ar radio digidol (DAB), teledu digidol daearol ac ar-lein. Rydyn ni am i'r dudalen hon fod yn le i sgwrsio a thrafod, ond fe fyddwn ni'n dileu sylwadau sy'n cynnwys rhegfeydd, sylwadau enllibus neu sarhaus, a sylwadau sy'n tor

ri'r gyfraith neu sy'n annog eraill i dorri'r gyfraith. Am fwy o wybodaeth, darllenwch Ganllawiau Golygyddol y BBC (Saesneg yn unig): http://bbc.in/social-ed-guide

🎉 Llongyfarchiadau i Christopher Rees, sydd wedi’i enwebu am wobr ‘Gwneud Gwahaniaeth’ am ei waith gwirfoddol gyda ‘Sobe...
05/09/2026

🎉 Llongyfarchiadau i Christopher Rees, sydd wedi’i enwebu am wobr ‘Gwneud Gwahaniaeth’ am ei waith gwirfoddol gyda ‘Sober Ninjas’ yng Ngwynedd ✊

Sefydlodd y gymuned i gefnogi pobl mewn argyfwng wedi iddo brofi heriau iechyd mawr yn sgil ei alcoholiaeth. O fod mewn lle 'tywyll ofnadwy’, mae bellach yn byw bywyd iach ac wedi hyd yn oed redeg ultramarathon.

Gwrandewch ar ei stori anhygoel ar 🎧👇

Mae 32 o bobl a grwpiau o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2026 y BBC. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn, 19 Medi, mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Dymuniadau gorau i bawb sydd wedi cael eu henwebu 👏

Mae Chris Rees wedi sefydlu cymuned Sober Ninjas i gefnogi eraill mewn argyfwng dibyniaeth

'Gen i rhyw ddawn o wneud pethau'n anodd i fi'n hun i'w perfformio yn fyw' 😆Wrth i'r band Calfari ddychwelyd i'r llwyfan...
04/09/2026

'Gen i rhyw ddawn o wneud pethau'n anodd i fi'n hun i'w perfformio yn fyw' 😆

Wrth i'r band Calfari ddychwelyd i'r llwyfan am y tro cyntaf ers 2018, mae'r prif leisydd Bryn Hughes Williams yn edrych ymlaen gydag Ifan Evans.

Llaw i fyny pwy fydd yn mynd i wylio'r gig yn Llannerchymedd heno! 🤘

Bryn Hughes Williams yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r llwyfan gyda'r band Calfari

04/09/2026

Mystic Mal! 👀

Adroddiadau fod Wrecsam â diddordeb arwyddo Jamie Vardy - rhywbeth yr oedd Malcolm Allen wedi ei broffwydo! 🤯

⚽ Y Coridor Ansicrwydd ⚽
📲 Gwrandewch
🔊 https://bit.ly/4cVcN20

'O'dd e wedi taro nerf...Mor ddirdynnol' 🎻Mae'n 90 mlynedd ers i'r cyfansoddwr o America, Samuel Barber, gyfansoddi 'Ada...
04/09/2026

'O'dd e wedi taro nerf...Mor ddirdynnol' 🎻

Mae'n 90 mlynedd ers i'r cyfansoddwr o America, Samuel Barber, gyfansoddi 'Adagio for Strings', un o ddarnau cerddorfaol mwyaf adnabyddus yr 20fed ganrif. 🎼

Y cyfansoddwr Geraint Lewis fu'n trafod arwyddocâd y darn ar raglen Dros Ginio gyda Gwenllian Grigg.

📲 Gwrandewch ar BBC Sounds

Geraint Lewis yn trafod campwaith y cyfansoddwr Samuel Barber

'Dwi'n eistedd yn y gadair golur am dair awr' 😮Yr actor Owain Arthur o Riwlas sy'n rhannu straeon am ei brofiadau yn act...
03/09/2026

'Dwi'n eistedd yn y gadair golur am dair awr' 😮

Yr actor Owain Arthur o Riwlas sy'n rhannu straeon am ei brofiadau yn actio y cymeriad barfog 'Durin' ar set y gyfres The Lord of the Rings: The Rings of Power 🧔‍♂️

Wrth sgwrsio gyda Mari Lovgreen yn ystod y gêm gwis banel Chawlu Pen mae'n esbonio fod diwrnod arferol wedi dechrau am hanner awr wedi tri y bore 🤯

Gwrandewch ar

Yr actor Owain Arthur sy'n rhannu straeon am ei brofiadau ar setiau ffilm a theledu.

'Mae gen i gasgliad o mwy na 400 cerdd' 😮Mae Melinda Gray o Cambridge, Massachusetts ac yn casglu cerddi gan ferched Cym...
03/09/2026

'Mae gen i gasgliad o mwy na 400 cerdd' 😮

Mae Melinda Gray o Cambridge, Massachusetts ac yn casglu cerddi gan ferched Cymreig America o'r 1800au.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Dros Frigau'r Don, blodeugerdd sy'n cyflwyno ac yn dehongli'r cerddi yma.

📲 Gwrandewch ar BBC Sounds

Melinda Gray o Cambridge, Massachusetts sy'n casglu cerddi gan ferched Cymreig America'r 1800au

03/09/2026

Mae tua 60% o wiwerod coch Cymru yn byw yn Ynys Môn. Un grŵp cymunedol sy'n gweithio i'w gwarchod yw Llyn Parc Mawr - Grŵp Coedwig Cymunedol/ Community Woodland Group ac maen nhw wedi'u henwebu am wobr Gwneud Gwahaniaeth. 💫

Swyddog Addysg y grŵp, Melissa Dhillon, sy'n egluro mwy am beth maen nhw'n ei wneud.

'Dwi 'di creu rhestr o 30 peth dwi eisiau ei wneud cyn i fi droi yn 30' 📋Dau beth oedd ar restr Elen Jones oedd teithio ...
03/09/2026

'Dwi 'di creu rhestr o 30 peth dwi eisiau ei wneud cyn i fi droi yn 30' 📋

Dau beth oedd ar restr Elen Jones oedd teithio i Awstralia a chystadlu mewn râs redeg dramor, felly mi laddodd ddau dderyn wythnos yma pan redodd Farathon Sydney. 👏

📲 Gwrandewch ar BBC Sounds

Hanes Elen Jones sydd wedi ennill cystadleuaeth i sicrhau lle ym Marathon Sydney

03/09/2026

Mae'r Elyrch yn hedfan! 🦢

Abertawe ar frig y Bencampwriaeth ar ôl pedair gêm gyntaf y tymor 📈

⚽ Y Coridor Ansicrwydd ⚽
📲 Gwrandewch
🔊 https://bit.ly/45ZFgjt

03/09/2026

Ydych chi wedi rhoi eich sandalau i'w cadw gan fod gwyliau'r haf drosodd? ☹️

Dydi Jac Northfield ddim, a does ganddo ddim bwriad gwneud chwaith! 😆

Lisa Angharad ar BBC Sounds 📲 https://bbc.in/4h6DEKU

Address

Radio Cymru, Sgwâr Canolog
Caerdydd
CF101FT

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when BBC Radio Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category