
24/07/2025
dMercher 6ed Awst
Sesiwn arbennig i drafod dynion yn Eisteddfod Wrecsam
Eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam bydd elusen Meddwl.org yn cynnal trafodaeth arbennig ar iechyd meddwl dynion.
Mae trafodaethau agored trwy gyfrwng y Gymraeg am iechyd meddwl a chyflyrau gwahanol iechyd meddwl wedi dod yn llawer mwy cyffredin dros y ddegawd diwethaf. Fodd bynnag, mae trafodaethau penodol am iechyd meddwl dynion yn llai cyffredin, ac mae stigma am drafod gwahanol gyflyrau yn parhau.
Dyma, o bosib, fydd y drafodaeth gyntaf o’i math ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn sgwrs onest a ffraeth yng nghwmni pedwar sydd wedi profi cyflyrau iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd.
Bydd awdur y fenter ‘Sut mae Dad’ Aled Vaughan Edwards a’r cerddor, dramodydd a chynhyrchydd cynnwys Iestyn Gwyn Jones yn cyfrannu at drafodaeth banel, gyda mwy o gyfranwyr i’w cyhoeddi ar blatfform Instagram a Facebook meddwl.org dros y dyddiau nesaf.
Bydd rhai cyfranwyr yn sôn am sut yr aethon nhw ati i ganfod cymorth a gwella, a bydd cyfle i’r gynulleidfa holi cwestiynau ac i ddysgu am ffynonellau gwahanol o gymorth, yn ogystal â gwaith meddwl.org
Dywedodd Iestyn: “Dwi wedi bod yn delio gydag iselder ers o’n i tua 10 mlwydd oed ac wedi wynebu sawl her gyda’n iechyd meddwl wrth dyfu’n hŷn.
“Wnes i ddechrau gan rannu fy mhrofiadau personol trwy cerddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Erbyn hyn dwi’n trio bod yn reit agored gyda fy iechyd meddwl gan geisio torri’r stigma - yn enwedig o ran dynion yn rhannu a thrafod eu teimladau. Dwi hefyd yn defnyddio cyfansoddi cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol fel ffordd o rannu a phrosesu fy nghyflwr meddyliol.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y sgwrs bwysig yma gyda meddwl.org ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.”
Dywed Hywel Llŷr Jenkins o meddwl.org: "Mae gen i barch mawr at ddynion sy'n codi eu llais a chwilio am gymorth pan maent yn profi cyfnodau anodd gyda salwch meddwl - mae'n arwydd o gryfder. Mae dal angen annog eraill i gael y cymorth maent ei angen, ac yn haeddu derbyn. Mae'r digwyddiad yma yn gyfle gwych i gael trafodaeth am sut orau i wneud hynny."
Cynhelir y drafodaeth banel am 3.30pm ar ddydd Mercher y 6ed o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau.
Cysylltwch gyda Meddwl am fwy o fanylion.
Betsi Cadwaladr