04/11/2025
Ar gael 31/10/2025!
Sawl comedïwr mae'n gymryd i newid bỳlb? Dim un - maen nhw'n rhy brysur yn meddwl am rywbeth doniol i'w dweud am y sefyllfa... (Bwm, bwm!)
Mae deg digrifwr y gyfrol hon yn rhannu eu profiadau am droeon trwstan eu byd gwaith comedïol a'u bywydau personol. Cawn flas ar rai o'r profiadau, y gwych a'r gwachul, sydd wedi'u serio a'u creithio ar y cof - o berfformio mewn gìg y drws nesaf i de angladd i sefyll y drws nesaf i 'frenin' Cymru i bi-pi!
O 'ladd' y gynulleidfa i 'farw' ar y llwyfan, dyw proffesiwn y stand-yp ddim yn un i'r gwangalon. Mae'r straeon yma yn profi hynny, ac yn llwyddo i'n diddanu yr un pryd.
Marw Chwerthin - gol. Susan Roberts
£7.99
cymru