
04/08/2025
Ydach chi yn y Steddfod fory?👀
Dewch i weld cyflwyniad a thrafodaeth am gyfres ddiweddaraf Telesgop am CERN - lle mae gwyddonwyr o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Cymru, yn ceisio darganfod sut y dechreuodd y bydysawd 💥
Wedi’i sefydlu 70 mlynedd yn ôl, yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth CERN i fodolaeth er mwyn heddwch - ac er mwyn chwilio am atebion mawr.
🎥 Elin Rhys, cynhyrchydd y gyfres, bydd yn rhannu hanes y daith, heriau ffilmio, a phwysigrwydd rhaglenni gwyddonol yn y Gymraeg.
🎥Syllu tu hwnt i’r byd
📍Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sinemaes
📅 Awst 5ed
🕓 16:00