29/09/2025
PRIDE IN PLACE PROGRAMME IS LABOUR’S “POLITICAL PANIC BUTTON”
Plaid Cymru Council Leaders call out Labour for failing to deliver fair funding for Welsh communities
In response to the UK Government’s Pride of Place programme announced on 25/9/25 where £214m of funding will be provided to Wales to empower local communities to support local facilities, the four Plaid Cymru Council Leaders have issued a statement saying that “Labour has deserted its values and turned its back on promises to deliver fair funding for Welsh communities.”
Plaid Cymru understands that the Pride in Place programme will target neighbourhoods with populations of around 10,000,meaning that many communities in rural parts of Wales will miss out.
Ahead of Jo Stevens, Secretary of State for Wales’ Labour Conference speech this afternoon, where she will say that the UK Government will invest more than £200m to revitalise high streets and regenerate communities in Wales, Cllr Darren Price, Leader of Carmarthenshire County Council, Cllr Bryan Davies, Leader of Ceredigion County Council, Cllr Nia Jeffreys, Leader of Gwynedd County Council and Cllr Gary Pritchard, Leader of the Isle of Anglesey County Council have called out the Labour Government for their “continued disregard for our rural communities that have been disproportionately underfunded over the years”.
Plaid Cymru Council Leaders Darren Price, Bryan Davies, Nia Jeffreys and Gary Pritchard said:
“Any funding for communities across Wales is welcome, but it is clear this does not stem from an understanding of Wales’ needs. It is a political panic button pushed by Labour ahead of a difficult election. The people of Wales can see through that – they have already seen that Labour has deserted its values and turned its back on promises to deliver fair funding for Welsh communities.
“This Pride in Place programme specifically targets neighbourhoods with populations of around 10,000, of which there are only a handful in the four western local authorities we control. This approach highlights the Labour Government’s continued disregard for our rural communities that have been disproportionately underfunded over the years, with countless areas across Wales falling below this threshold and missing out on much needed support.
“This Labour Government is taking local authorities in Wales for a ride – from failing to cover employer National Insurance contributions in the public sector, to keeping councils in the dark about why they are not eligible for funding under the Pride in Place programme. These are the very local authorities that fund our schools, provide social care for our loved ones, and maintain our public spaces and facilities. This is not a government serious about delivering real change on the ground.”
ENDS
RHAGLEN BALCHDER BRO YN ARWYDD O LAFUR YN PWYSO “BOTWM PANIG GWLEIDYDDOL”
Arweinwyr Cyngor Plaid Cymru yn beirniadu Llafur am fethu â darparu cyllid teg i gymunedau Cymru
Mewn ymateb i raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar 25/9/25, ble fo £214m o gyllid yn cael ei ddarparu i Gymru i rymuso cymunedau lleol i gefnogi cyfleusterau lleol, mae pedwar Arweinydd Cyngor Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod “Llafur wedi cefnu ar ei gwerthoedd a’u haddewidion i ddarparu cyllid teg i gymunedau Cymru.”
Mae Plaid Cymru yn deall y bydd y rhaglen Balchder Bro yn targedu cymdogaethau â phoblogaethau o tua 10,000, sy'n golygu y bydd llawer o gymunedau mewn rhannau gwledig o Gymru yn colli allan.
Cyn araith Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng Nghynhadledd Llafur y prynhawn yma, lle bydd hi'n dweud y bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi mwy na £200m i adfywio strydoedd mawr ac adfywio cymunedau yng Nghymru, mae'r Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd a'r Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn wedi galw Llywodraeth Lafur allan am eu "diystyriaeth barhaus o'n cymunedau gwledig sydd wedi cael eu tan-ariannu'n anghymesur dros y blynyddoedd".
Dywedodd Darren Price, Bryan Davies, Nia Jeffreys a Gary Pritchard, Arweinwyr Cyngor Plaid Cymru:
"Mae unrhyw gyllid ar gyfer cymunedau ledled Cymru yn cael ei groesawu, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn deillio o ddealltwriaeth o anghenion Cymru. Mae'n fotwm panig gwleidyddol sydd wedi ei bwyso gan Lafur cyn etholiad anodd. Mae pobl Cymru yn gweld trwy hynny - maent eisoes wedi gweld bod Llafur wedi cefnu ar eu gwerthoedd a’u haddewidion i ddarparu cyllid teg i gymunedau Cymru.
"Mae'r rhaglen Balchder Bro yma’n targedu cymdogaethau â phoblogaethau o tua 10,000 yn benodol – dim ond llond llaw o’r rheini sydd yn y pedwar awdurdod lleol gorllewinol yr ydym yn eu rheoli. Mae hyn yn tynnu sylw at anwybyddu parhaus Llywodraeth Lafur o'n cymunedau gwledig sydd wedi cael eu tan-ariannu'n anghymesur dros y blynyddoedd, gyda nifer fawr o ardaloedd ledled Cymru yn disgyn o dan y trothwy hwn ac yn colli allan ar y gefnogaeth sydd fawr ei angen.
“Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn twyllo awdurdodau lleol yng Nghymru – o fethu â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, i gadw cynghorau yn y tywyllwch dros pam nad ydynt yn gymwys i gael cyllid o dan y rhaglen Balchder Bro. Dyma'r awdurdodau lleol sy'n ariannu ein hysgolion, yn darparu gofal cymdeithasol i'n hanwyliaid, ac yn cynnal ein mannau a'n cyfleusterau cyhoeddus. Nid yw’r llywodraeth yma o ddifri ynglŷn â chyflawni newid go iawn ar lawr gwlad.”
DIWEDD