22/06/2025
Roedden ni’n falch iawn o gyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth stori fer ar BBC Radio Cymru gyda Ffion Dafis prynhawn ‘ma. Dyma nhw:
💚 Steffan Wilson-Jones
Mae Steffan yn sgwennwr a chynhyrchydd theatr o Ddyffryn Clwyd, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ar ôl graddio mewn BA Ffilm & Theatr ym Mhrifysgol Reading, astudiodd Ysgrifennu Creadigol ym Manceinion, cyn symud i Gaerdydd i weithio fel Golygydd Sgript ar Pobol y Cwm. Mae bellach yn Gynhyrchydd Cynorthwyol gyda Theatr Cymru, a’n parhau i sgwennu ar bob cyfle posib. Mae’n ddigon ffodus i fod yn un o’r sgwennwyr ar gynllun Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2025-2026, ac yn gweithio ar nofel a chasgliad o straeon byrion ar hyn o bryd. Mae wrth ei fodd yn rhedeg, canu, chwarae’r piano a mynd i’r theatr a’r sinema mor aml ag y gall e.
💚 Math Wiliam
Er bod Math wastad wedi bod â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol, dim ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dechrau gwneud hynny. Hon yw’r drydedd gystadleuaeth iddo’i hennill, yn dilyn buddugoliaethau o’r bron yn yr Eisteddfod. Yn wreiddiol o Nefyn, mae bellach yn treulio’i amser yng Ngholombia, lle mae’n ceisio dysgu Sbaeneg tra’n codi ymwybyddiaeth am Gymru. Yn dilyn gyrfa ym meysydd newyddiaduriaeth, gwleidyddiaeth a’r celfyddydau, mae bellach yn cymryd seibiant, cyn penderfynu ar ei antur nesaf.
💚 Sara Mitchell
Mae Sara’n byw yng Nghapel Dewi ger Aberystwyth ond yn dod o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro yn wreiddiol. Mae’n briod ac mae ganddi ddwy o ferched. Mae’n mwynhau cadw'n heini ond ddim wastad yn llwyddo i wneud! Does dim yn well ganddi na chydio mewn nofel dda.
Llongyfarchiadau i chi gyd! Diolch i Sioned Erin Hughes am feirniadu a DIOLCH i bob un ymgeisydd.🎉📚
Llyfr newydd ar y gweill… cadwch lygad!