
24/09/2025
Helo, myfyrwyr! Hi, students!
Croeso mawr i holl fyfyrwyr newydd eleni - a chroeso 'nol i'r rheini sy'n dychwelyd - naill ai yma yn Aberystwyth neu ar draws y wlad. Ni yw Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae gymaint gyda ni sy'n ddefnyddiol i chi - o leoliad gwych i astudio, deunydd digidol sydd ar gael ar-lein, i drysorau cudd sydd dal ar ein silffoedd yn barod i'w darganfod! Dros yr wythnosau nesaf byddwn ni'n cyflwyno'n gwaith i chi, ond croeso i chi gysylltu yma unrhyw bryd i ddweud helo neu ofyn cwestiwn!
A warm welcome to all of this year's new students - and those who are returning - either here in Aberystwyth or across the country. We're the National Library of Wales Screen and Sound Archive, and we have so much that's useful to you - from a great space to study in, digital material that's available online, to hidden gems that are still on our shelves ready to be discovered! Over the next few weeks we'll be introducing our work to you, but you're welcome to get in touch here any time to say hello or ask a question!