03/12/2025
‼️IMPORTANT UPDATE‼️
The wearing of masks is now required in all hospital settings until 12 January 2026
Since mask-wearing was introduced on 24 November, we have already seen the important role it plays in slowing the spread of flu and other viruses.
To protect the health of the most vulnerable, we have extended compulsory mask-wearing for staff, visitors and patients on our hospital sites until 12 January 2026.
Fluid repellent masks must be worn by all staff, patients and visitors (unless clinically exempt) when attending:
• Our hospital sites
• Wards
• Emergency Departments
• All clinical settings, including our Minor Injury Units (MIUs).
When worn correctly, masks act as a filter that reduces the number of germs you breathe in and out. If worn by someone who has a virus, masks can significantly reduce the chance of spreading it to others.
Wearing a mask isn’t just about protecting yourself from winter illnesses; it’s about protecting those around you for whom these viruses might be more dangerous.
Thank you.
----------
‼️DIWEDDARIAD PWYSIG‼️
Mae gwisgo masgiau bellach yn ofynnol ym mhob ysbyty tan 12 Ionawr 2026
Ers cyflwyno gwisgo masgiau ar 24 Tachwedd, rydym eisoes wedi gweld y rôl bwysig y mae'n ei chwarae wrth arafu lledaeniad y ffliw a firysau eraill.
Er mwyn diogelu iechyd y rhai mwyaf agored i niwed, rydym wedi ymestyn gwisgo masgiau gorfodol i staff, ymwelwyr a chleifion ar safleoedd ein hysbytai tan 12 Ionawr 2026.
Rhaid i bob aelod o staff, claf ac ymwelydd (oni bai eu bod wedi'u heithrio'n glinigol) wisgo masgiau sy’n atal hylifau wrth fynd i:
• Ein hysbytai
• Wardiau
• Adrannau Brys
• Pob lleoliad clinigol, gan gynnwys ein Hunedau Mân Anafiadau (MIUs).
Pan fyddan nhw’n cael eu gwisgo'n gywir, mae masgiau'n gweithio fel hidlydd sy'n lleihau nifer y germau rydych chi'n eu hanadlu i mewn ac allan. Os maen nhw’n cael eu gwisgo gan rywun sydd â feirws, gall masgiau leihau'r siawns o'u lledaenu i eraill yn sylweddol.
Nid dim ond amddiffyn eich hun rhag afiechydon y gaeaf yw gwisgo masg; mae'n ymwneud ag amddiffyn y rhai o'ch cwmpas y gallai'r feirysau hyn fod yn fwy peryglus iddyn nhw.
Diolch.