
09/08/2025
❤️
Dim ond cae ydi o.
Dydi fan hyn ddim mwy na chydig o gaeau mewn gwirionedd, caeau fydd yn cael eu amaethu eto mewn dim - fel y miloedd eraill yng Nghymru.
Ond yn y caeau yma yr wythnos yma, mae yna nifer fawr ohono ni wedi colli deigryn. Mi yda ni wedi chwerthin lond ein boliau, sgwrsio, trîn a thrafod, dweud helo, dawnsio, cymeradwyo, holi ac ateb, codi gwydryn a chodi sawl gwên.
Yn y caeau yma yr wythnos yma, yn y nene ene, mi yda ni wedi gwneud hynny i gyd - a mwy - yn yr iaith hynafol yma sy’n drysor i ni gyd. Y geiriau a’r llythrennau yma sy’n gadael ein tafodau ni pob dydd a sy’n cysylltu pob un wan jac ohono ni - o’r de i’r gogledd ac o’r dwyrain i’r gorllewin.
Diolch o galon Wrecsam. I’r holl wirfoddolwyr sydd wedi dod o bell ac agos - fyddai yna ddim gŵyl hebddo chi. Diolch anferth hefyd i griw bychan staff y Steddfod.
Y peth gorau oll ydi y cawn ni wneud hyn i gyd eto’r flwyddyn nesa - troi dim ond ychydig o gaeau yn dir ffrwythlon i’r iaith a hynny yn Steddfod y Garreg Las.
❤️🏴
Wrecsam
Y Garreg Las