Cod UCAS: W405
Cwrs arloesol sy’n cynhyrchu ymarferwyr o’r radd flaenaf i weithio yn y diwydiannau creadigol (theatr a’r cyfryngau) yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r cwrs yn ateb galwad sefydliadau theatr a chyfryngau yng Nghymru am weithwyr creadigol dwyieithog medrus. Bydd yn paratoi myfyrwyr i weithio ar draws cyfryngau amrywiol a bydd myfyrwyr yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant. Bydd y cwrs yn e
ich galluogi i gymryd y camau cyntaf i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac yn cwmpasu opsiynau gyrfaol o bob math gangynnwys gweithio fel:
Actorion a chyfarwyddwyr theatr a theledu
Rheolwyr llwyfan, dramodwyr/sgriptwyr
Ymchwilwyr
Cynhyrchwyr a chyflwynwyr teledu
Athrawon
Byddwch yn astudio yng nghanol Caerdydd wrth galon y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Byddwch yn elwa o greu cysylltiadau gyrfaol angenrheidiol o’r foment gyntaf ac yn graddio gyda dealltwriaeth ddofn o’r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y diwydiant, ac o gyd-destun diwylliannol y sector theatr a’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol ym meysydd perfformio a’r cyfryngau, yn astudio cyd-destun diwylliannol y diwydiannau creadigol ac yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt fydd yn eich galluogi i gystadlu am waith. Mae’r staff yn arbenigwyr ym meysydd perfformio, cyfryngau a diwylliant ac mae ganddynt ystod eang iawn o brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol fel perfformwyr, actorion, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a dramodwyr, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Does dim rheidrwydd bod gennych gymwysterau mewn drama neu astudiaethau’r cyfryngau er mwyn astudio’r cwrs hwn. Rydym yn croesawu ymgeiswyr gyda chymhwyster TGAU yn y Gymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith. Mae’r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiannau creadigol fel perfformwyr neu mewn rôl arall. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl a’r rhai sydd wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol.