Newyddion S4C

Newyddion S4C Newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. Ar gael ar-lein ac ar deledu. Croeso i dudalen Facebook Newyddion S4C.

Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf o Gymru a'r byd. Rydyn ni am i'r dudalen hon fod yn le i sgwrsio a thrafod, ond fe fyddwn ni'n dileu sylwadau sy'n cynnwys rhegfeydd, sylwadau enllibus neu sarhaus, a sylwadau sy'n torri'r gyfraith neu sy'n annog eraill dorri’r gyfraith

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 🇨🇩 Wrth i rai o ffigyrau amlycaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ymweld â thref Bae Colwyn yr wythnos hon, bet...
01/11/2025

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 🇨🇩 Wrth i rai o ffigyrau amlycaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ymweld â thref Bae Colwyn yr wythnos hon, beth yn union yw'r cysylltiadau rhwng tref yng ngogledd Cymru a gwlad yn Affrica?

Wrth i rai o ffigyrau amlycaf Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo ymweld â thref Bae Colwyn yr wythnos hon, beth yn union yw'r cysylltiadau rhwng tref yng ngogledd Cymru a gwlad yn Affrica?Er nad yw'r cysylltiadau rhwng Bae Colwyn a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn adnabyddus iawn, maen nhw'n dyddi...

🏉 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Wythnos wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi cynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri, sut mae'r ce...
01/11/2025

🏉 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Wythnos wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi cynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri, sut mae'r cefnogwyr yn teimlo am hyn ar ôl cael amser i ystyried yr argymhelliad?

Mae wythnos wedi bod ers i Undeb Rygbi Cymru (URC) gyhoeddi cynlluniau i dorri nifer y rhanbarthau o bedwar i dri

'Fydd o yn brofiad gwahanol, newydd i bobl.'  Mae dyn o Griccieth yn rhan o gynllun i adeiladu labordy paleontoleg gyhoe...
01/11/2025

'Fydd o yn brofiad gwahanol, newydd i bobl.'

Mae dyn o Griccieth yn rhan o gynllun i adeiladu labordy paleontoleg gyhoeddus newydd dros y ffin yn Telford

Mae paleontolegydd o Gymru yn rhan o gynllun i olrhain hanes dinosoriaid drwy adeiladu labordy paleontoleg gyhoeddus yn Telford

01/11/2025

💃 'Mae'n ffordd o fyw i fi. Mae gen i deulu mawr o fenywod nawr.'

Mae grŵp o fenywod yn y Cymoedd wedi dweud eu bod yn ddiolchgar am y 'gymuned' y maen nhw wedi gallu ei hadeiladu drwy fynychu dosbarth ffitrwydd arbennig.

'Bu farw mam, ar ei phen ei hun.'     Mae taith llong bleser 60 diwrnod o gwmpas Awstralia wedi cael ei chanslo ddyddiau...
01/11/2025

'Bu farw mam, ar ei phen ei hun.'

Mae taith llong bleser 60 diwrnod o gwmpas Awstralia wedi cael ei chanslo ddyddiau ar ôl marwolaeth dynes oedrannus a gafodd ei gadael ar ôl ar ynys anghysbell

Mae taith llong bleser 60 diwrnod o gwmpas Awstralia wedi cael ei chanslo ddyddiau ar ôl marwolaeth dynes oedrannus a gafodd ei gadael ar ôl ar ynys anghysbell

'Mae yna ddrewdod yma. Ble mae cwmpawd moesol pawb yn hyn?' Mae Cymro oedd yn gyn-bennaeth diogelwch ar y Teulu Brenhino...
01/11/2025

'Mae yna ddrewdod yma. Ble mae cwmpawd moesol pawb yn hyn?'

Mae Cymro oedd yn gyn-bennaeth diogelwch ar y Teulu Brenhinol wedi galw ar yr heddlu i holi Andrew Mountbatten Windsor, y cyn-dywysog, am ei berthynas gyda Virginia Giuffre

Mae Cymro oedd yn gyn-bennaeth diogelwch ar y Teulu Brenhinol wedi galw ar yr heddlu i holi Andrew Mountbatten Windsor, y cyn-dywysog, am ei berthynas gyda Virginia Giuffre

01/11/2025

🎤 'Does 'na ddim lot o blant yn gallu neud hwn so dwi angen neud the most of it.'

Mae merch 11 oed o Fôn yn serennu mewn ffilm newydd sydd yn boblogaidd ar draws y byd.

'Mae potensial bo' fi wedi colli allan ar dipyn o bres'Mae platfform siopa ar-lein Temu wedi cytuno i weithio gyda dylun...
31/10/2025

'Mae potensial bo' fi wedi colli allan ar dipyn o bres'

Mae platfform siopa ar-lein Temu wedi cytuno i weithio gyda dylunwyr i gael gwared ar eitemau sydd wedi'u copïo ar eu gwefan

Ond yn ôl busnes dylunio yn y gogledd, mae eu delweddau yn parhau i gael eu gwerthu arno

Mae'r platfform siopa ar-lein, Temu, wedi cytuno i weithio gyda dylunwyr a'r chwmnïau cardiau cyfarch i gael gwared ar ddyluniadau sydd wedi'u copïo

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw drosolwg cenedlaethol o ymchwiliadau diogelu mewn ysgolion wedi bod ...
31/10/2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw drosolwg cenedlaethol o ymchwiliadau diogelu mewn ysgolion wedi bod ers 2018

31/10/2025

📻 Fe fydd y BBC yn dathlu 90 mlynedd ers dechrau darlledu o Fangor dydd Sadwrn

Y cyn-Brif Weinidog Lloyd George oedd y cyntaf i ddarlledu o ganolfan y BBC ym Mangor ar y cyntaf o Dachwedd 1935. Carwyn Jones sydd wedi bod yn tyrchu drwy’r archif

31/10/2025

📚 'Fel ennill Cwpan y Byd'

Mae Aberystwyth newydd gael ei henwi’n un o brif ganolfannau llenyddiaeth y byd - a'r lle cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws o'r fath gan gorff diwylliant y Cenhedloedd Unedig, Unesco

Dyma adroddiad Craig Duggan

Address

Carmarthen

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Newyddion S4C posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share