
15/08/2025
👇Adolygiad o 'Nos Da, Blob' gan Huw Aaron👇
"Mae’n amser clwydo ar y bwystfil bychan ond rhaid iddo gael stori cyn cysgu fel pob ‘bychan’ arall. Mae’r anwyldeb i’w deimlo’n glir yn y geiriau a’r lluniau. Mae’n amser ffarwelio a holl ofnau’r dydd a chymylau duon pryder. Mae pob anghenfil yn paratoi i gysgu – Y Fampir, Medusa, Godzilla a’r Seiclops yn eu plith. Ac er na fydd y rhain o reidrwydd yn bethau cyfarwydd i blant bach mae digon i’w fwynhau yn y lluniau a byddant erbyn y diwedd yn gallu uniaethu gyda Blob, yr ‘annwyl, werthfawr un’. Byddai plant yn gwerthfawrogi’r elfennau ‘ych‑a‑fi’ yn y stori." Ruth Owen, Barn.
Mae 'Nos Da, Blob' ar gael yn eich siopau llyfrau lleol neu ar wefan Y Lolfa, £7.99.