20/09/2025                                                                            
                                    
                                                                            
                                            ‘MA GYDA CHI EICH IAITH A'CH DIWYLLIANT’
Hwyrach mai dyna’r datganiad mwyaf croyw a wnaed yng Nghanolfan Hermon ar achlysur dathlu pen-blwydd Clebran yn 50 oed nos Wener, Medi 19. 
Nid sylw gan y gŵr gwadd, Mark Drakeford, Gweinidog Llywodraeth Cymru, sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg chwaith, ond gan gyfaill o Ogledd Iwerddon.
Dywedodd Drew Galwey wrth y gynulleidfa nad oedd e’n siaradwr Gaeleg ei hun ond ei fod wedi ymweld ag ardal y Garreg Las droeon a’i fod wedi’i ryfeddu gan gynhesrwydd y croeso ar bob achlysur. 
Dywedodd y gŵr o Armagh iddo sylweddoli bod gan y trigolion rhywbeth gwerthfawr iawn sef iaith sydd â diwylliant cyfoethog yn rhan ohoni. 
Ychwanegodd fod rhywbeth yn hyfryd yn y ffaith ei fod yn medru dilyn y drafodaeth trwy wrando ar gyfieithydd yn sibrwd yn ei glust.
Cyfyng Gyngor
Gŵr arall oedd yn ddibynnol ar glustffonau oedd Mark Bigland-Pritchard o Ganada. Cyfrannodd trwy ddweud ei fod ef a’i wraig yn ystyried symud nôl i’r wlad hon ac o bosib i ardal y Garreg Las. Ond roedden nhw’n wynebu cyfyng gyngor.
Roedd dau beth yn ei boeni meddai; y ffaith y gallai eu presenoldeb gyfrannu at lastwreiddio pellach o’r ffordd draddodiadol o fyw a hwythau yn brin eu Cymraeg, a’r ffaith y bydden nhw o bosib yn amddifadu rhywun lleol rhag prynu cartref.
Yn gefndir i hyn oedd y ffaith eu bod, tra oedden nhw’n byw yn nhalaith Saskatchewan, wedi bod yn ymwneud â chenhedloedd y Brodorion Cyntaf y Cree.
Rhwng y ddau begwn yna lleisiwyd y pryder lleol ynghylch y bwriad i gau Ysgol Gynradd Clydau yn Nhegryn oherwydd nad yw’r argoelion o niferoedd plant yn y dyfodol yn mynd i gyfiawnhau’r gost o’i chynnal.
Darbwyllo’r Gweinidog
Ceisiodd sawl un ddarbwyllo’r Gweinidog bod angen mecanwaith i gadw ysgolion o’r fath ar agor neu fe fydd eu cau yn hoelen arall yn arch yr iaith. 
Ar y llaw arall nodwyd bod y mwyafrif o’r bobl sy’n prynu tai yn lleol yn bobl sy’n ymddeol i’r ardal, ddim yn debyg o blanta felly, ac mai canran fechan ohonyn nhw sy’n medru’r Gymraeg neu yn ei chefnogi.
O ran Mark Drakeford ei hun dywedodd fod ei Lywodraeth mewn cyfyng gyngor ynghylch clustnodi ardaloedd penodol yn Ardaloedd o Ddwysedd Uchel o ran nifer y siaradwyr Cymraeg, yn unol ag argymhelliad yr adroddiad a gomisiynwyd o dan gadeiryddiaeth Dr Simon Brooks.
“I ni am weld tegwch. O dderbyn mai 40% fyddai’r trothwy beth pe bai’r ffigwr yn yr ardal gyfagos yn 38% o siaradwyr a hynny wedyn yn arwain at densiwn. Mae angen rhagor o ymchwil cyn gwneud penderfyniad,” meddai. 
Pa Freintiau?
Fe’i gwnaeth yn glir na fydd penderfyniad yn cael ei wneud tan ar ôl etholiadau’r senedd fis Mai’r flwyddyn nesaf pan fydd ef ei hun wedi ymddeol. Ni wnaeth nodi chwaith pa fath o freintiau fyddai Ardal o Ddwysedd Uchel yn eu cael. 
Rhoddwyd y gorau bellach i ddisgrifio ardaloedd fel Bröydd Cymraeg am nad ydyn nhw’n bodoli. Y maen prawf arferol ar gyfer defnyddio’r term oedd 70% o drigolion yn medru’r iaith ac felly yn ei chynnal fel iaith gymunedol.
Ni soniwyd chwaith am y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.