09/09/2026
Mae Aneirin Karadog yn fardd, darlledwr ac ieithydd. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016 ac roedd yn Fardd Plant Cymru rhwng 2013-2015. Roedd wedi ennill categori barddoniaeth cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2013 a 2017 gyda’i gyfrolau ‘O Annwn i Geltia’ a ‘Bylchau’.