19/11/2025
7-1, 7-1, 7-1, 7-1!
Harry Wilson yn dathlu sgorio’r bumed yn erbyn Gogledd Macedonia (Llun gan Ashley Crowden/FAW)
Mi wnes i ddeffro’r bore yma a gorfod gwglo sgôr gêm Cymru neithiwr… na, nid breuddwyd a gafwyd, ond gêm oedd yn ymylu ar fod yn berffaith!
A hynny heb Ben Davies ein capten, heb Kiefer Moore sy’ wedi bod yn bangio’r gôls fewn i Wrecsam, a heb Ethan Ampadu a Jordan James, dau angor cydnerth ein canol cae.
Bois bach, ar brydiau roedd Cymru yn chwarae fel Brasil.
A sôn am Frasil, mae gan eich colofnydd Phil Stead stori wych am y diweddar Trefor Lloyd Hughes yn teithio i Rio ar gyfer ffeinal Cwpan y Byd 2014, ac yn cyfarfod un o sêr y byd pop.
Hefyd yn y cylchgrawn, Rhys Owen sy’n edrych ar yr addewid o atomfeydd bychan ar safle’r Wylfa, a’r miloedd o swyddi allai ddod i Fôn… ond erys sawl cwestiwn heb ateb.
Er enghraifft, o le ddaw’r £8 biliwn o fuddsoddiad sydd ei angan gan y sector breifat?
Ac mae gan Cadi Dafydd hanes y criw hwyliog sy’n cynhyrchu eu seidr eu hunain draw ar gyrion Aberystwyth.
Hefyd gan Cadi, portread difyr o Bethan Dwyfor sy’n actio ar S4C ers y dyddiau cynnar ac, yn digwydd bod, i’w gweld mewn dwy gyfres ar hyn o bryd – Pobol y Cwm a STAD.
Ac mae Non Tudur wedi holi awdur llyfr newydd am drefnydd cyflogedig cyntaf Plaid Cymru.
Roedd Hugh Robert Jones yn gyn-chwarelwr a fu farw yn ifanc iawn, yn 36 oed.
Ond yn ystod ei fywyd byr fe wnaeth ei farc, ac fel hyn y mae Dafydd Iwan yn canu amdano yn ei gân ‘609’, am y 609 fotiodd dros y Blaid yn ei hetholiad cyffredinol cyntaf yn 1929:
‘Daeth y gŵr o Ddeiniolen, mor welw ei wedd,
A’i ffydd oedd yn darian a’i obaith yn gledd;
Fe gerddodd drwy’r ddrycin, y cenllysg a’r glaw
I gyfarfod y ffyddlon: y chwe chant a naw.’
📲📲📲