29/12/2025
🙋Gwirfoddoli – y rhodd sy'n dal i roi 🙋♂
Gan barhau â thema diwedd y flwyddyn, rydym am ddathlu gwaith y sefydliadau hynny rydym wedi'u cefnogi sydd wedi darparu cyfleoedd gwirfoddoli o safon yn ein cymunedau gwledig.
• Derbyniodd prosiect Mabwysiadu Llednant Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru gyllid grant gwerth £14,836.99 i uwchsgilio pobl a'u galluogi i feithrin yr wybodaeth, yr hyder a'r brwdfrydedd i gydweithio i fabwysiadu eu hafon agosaf, helpu i'w chynnal a'i chadw ac adrodd am unrhyw faterion y mae angen ymdrin â nhw. Cynhaliwyd sesiynau grwpiau cymunedol, ysgolion a gwybodaeth gyhoeddus, a dysgodd 141 o gyfranogwyr am y pethau syml y gallant eu gwneud i wella iechyd eu hafonydd lleol.
Mabwysiadwyd chwe llednant. Gan recriwtio a defnyddio cyfanswm o fwy na 200 o wirfoddolwyr, gwnaeth Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru helpu i glirio a thrin rhywog*ethau ymledol, megis ffromlys chwarennog, rhododendronau a chanclwm Japan, cynnal a chadw glannau afon yn ardaloedd Clydach, Felindre a phenrhyn Gŵyr, a chasglu mwy na 500kg o sbwriel.
• Prosiect cyffrous arall sy'n defnyddio gwirfoddolwyr yw Prosiect Cartersford Ymddiriedolaeth Natur De-orllewin Cymru i gymryd y camau cyntaf wrth greu gwarchodfa natur newydd ym mro Gŵyr. Mae'r prosiect hwn, sy’n gweithredu ar 17 hectar o dir rhwng tir comin Fairwood a thir comin Pengwern o’r enw Cartersford, yn ceisio ailblannu'r coetir a sicrhau buddion i gynefinoedd a'r dirwedd yn y rhan hon o benrhyn Gŵyr. Cymdeithas Gŵyr sy'n berchen ar y cyd ar y safle, a fydd yn rhan o warchodfa natur newydd ym mhenrhyn Gŵyr. Mae hanes y tir hwn yn gymysg a bu oddeutu hanner yr ardal yn goediog iawn yn y gorffennol.
Cafodd y coed eu cymynu'n anghyfreithlon a chafodd y bonion eu chwalu, ond nid achubwyd ar y cyfle i ailstocio'r coetir. Pan roddwyd y tir ar werth, gweithiodd Cymdeithas Gŵyr ac Ymddiriedolaeth Natur De-orllewin Cymru gyda’i gilydd i sicrhau perchnog*eth ar y tir at ddibenion cadwraeth, er mwyn ailblannu'r coetir a darparu buddion i gynefinoedd a'r dirwedd yn y rhan hon o benrhyn Gŵyr.
O ganlyniad i'r cyllid, cafodd rhannau o'r ffens derfyn eu hadnewyddu, er mwyn diogelu'r safle rhag anifeiliaid sy’n pori, ac ailosod ffensys y gellid eu hatgyweirio. Heb reoli’r anifeiliaid sy’n pori, ni fyddai unrhyw goed wedi cael eu sefydlu. Cynhaliwyd sesiynau i alluogi gwirfoddolwyr (newydd a phresennol) i reoli ffromlys chwarennog (rhywog*eth anfrodorol ymledol), paratoi'r safle ar gyfer y ffensys a pharatoi'r tir ar gyfer cam cyntaf y gwaith plannu. Cynhaliwyd nifer o arolygon bioamrywiaeth a phriddeg, lluniwyd cynllun rheoli a chynlluniau dylunio ar gyfer ailstocio'r coetir a gwnaed gwaith arolygu a monitro glaswelltir.
Yn ogystal, crëwyd cynllun ar gyfer ymgysylltu â gwirfoddolwyr yn y dyfodol. Bydd gwaith yn parhau ar y warchodfa natur newydd am byth, a bydd gwaith cynnal a chadw a rheoli cynefinoedd yn darparu llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â gwirfoddolwyr yn y dyfodol.
• Cynhaliodd MAD Abertawe brosiect gyda phobl ifanc i wella bioamrywiaeth a byd natur, gan ddefnyddio grant gwerth £11,160.62. Mae'r prosiect wedi bod yn hwyluso clwb ieuenctid wythnosol yn Neuadd Gymunedol Pennard ers mis Medi 2024. Mae'r clwb ieuenctid yn cynnig lle diogel a chefnogol a chyfleoedd i alluogi pobl ifanc ym mhenrhyn Gŵyr i gyfranogi mewn amrywiaeth o weithgareddau, magu sgiliau a meithrin perthnasoedd cadarnhaol, gan gefnogi lles pobl ifanc a lleihau ynysu cymdeithasol. Cynhaliwyd gweithgareddau bioamrywiaeth yng ngardd Tyfu Pennard ac ar laswelltir amwynder y tu ôl i Neuadd Gymunedol Pennard, gwrychoedd hynafol ac o gwmpas y cae chwarae.
Gwnaeth y gweithgareddau eang – gan gynnwys camau gweithredu ynghylch bioamrywiaeth, prosiectau creadigol a gwirfoddoli – helpu i fagu sgiliau a hyder, gan gefnogi datblygiad personol a chymdeithasol. Yn ogystal â chyflawni targedau allweddol, dangosodd lefel uchel y cyfranogiad mewn gwirfoddoli a gwella'r amgylchedd fod pobl ifanc yn gwerthfawrogi cael dylanwad go iawn ar brosiectau i wella eu hamgylchoedd.
• Gan ddefnyddio cyllid gwerth £7,960, gwnaeth Bantani Cymru ddatblygu Llyfrgelloedd Byw, sef prosiect gwirfoddoli cymunedol a ddaeth ag oedolion hŷn a disgyblion ysgol ynghyd drwy gyfres o sesiynau mewn saith ward wledig yn Abertawe. Creodd y prosiect gyfle ar gyfer profiadau dysgu go iawn, ystyrlon i gysylltu plant â'r byd y tu allan i'r ystafell ddosbarth – yn enwedig â'r bobl a'r straeon yn eu cymunedau eu hunain.
Drwy'r prosiect Llyfrgelloedd Byw, mae disgyblion wedi meithrin dealltwriaeth fwy dwfn o dreftadaeth leol, hunaniaeth a newid cymdeithasol, wedi'i gwreiddio mewn sgyrsiau go iawn ag oedolion hŷn.
Clywodd disgyblion o lygad y ffynnon am brofiad bywyd y cenedlaethau hŷn – sut roedd pobl yn teithio, yr hyn roeddent yn ei fwyta, sut roeddent yn dysgu – a rhoddodd hyn gyfle iddynt fyfyrio ar eu bywydau eu hunain, eu gwerthoedd a'u hymdeimlad o berthyn a'r amgylchedd. Bu 10 o ysgolion cynradd yn gweithio gydag 85 o wirfoddolwyr, gan gyrraedd 25 o aelodau staff ysgolion a 400 o blant: roedd yr holl ysgolion o wardiau gwledig Abertawe.
Mae gwirfoddolwyr wedi mynegi pa mor bwerus oedd y ffaith bod pobl wedi gwrando arnynt mewn modd gwirioneddol chwilfrydig, a pha mor hapus roeddent wrth rannu atgofion am eu plentyndod – o ddogni a gwyliau lleol i deithio i'r ysgol neu'r hyn roeddent yn ei fwyta gartref. Mae'r manylion ymddangosiadol gyffredin hyn yn meddu ar ystyr newydd drwy lygaid y genhedlaeth
https://www.abertawe.gov.uk/CyllidAngoriGwledig